Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18
Diolch i chi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar 2 Tachwedd 2016 i drafod cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. Gwnaethoch gytuno i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu rhagor o wybodaeth, a hefyd mae un neu ddau o feysydd y byddai’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael eglurhad pellach yn eu cylch.
Cadw - Rhaglen Gyfalaf
Gwnaethoch gadarnhau na fyddai dim lleihad o ran y rhaglen gwariant cyfalaf arfaethedig o ganlyniad i’r toriad yn y gyllideb cyfalaf, ac y byddai incwm a godir yn safleoedd Cadw yn cael ei ddefnyddio i sicrhau’r gwariant cyfalaf hwnnw. Dywedasoch y byddech yn ysgrifennu i nodi pa safleoedd Cadw a fyddai’n elwa o waith arian cyfalaf dros y pedair blynedd nesaf, i gadarnhau na fyddai dim lleihad i’r gwariant a gynlluniwyd ac, ymhellach, i nodi pa waith ychwanegol a gaiff ei wneud mewn safleoedd os caiff rhagor o incwm eto ei greu a’i ddyrannu ar gyfer gwariant cyfalaf gan Cadw.
Cadw - Creu Incwm
Nid yw’n gwbl glir beth fydd yr effaith ar Cadw os bydd yn methu â chyrraedd ei darged ar gyfer creu incwm. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael gwybod sut y gwneir iawn am unrhyw ddiffyg os na chyrhaeddir y targedau, ac o gael sicrwydd y bydd unrhyw incwm ychwanegol a gynhyrchir gan Cadw wedi cael ei neilltuo, fel y caiff ei ddefnyddio i gefnogi gwaith Cadw. Yn ogystal, byddai’r Pwyllgor hefyd yn ddiolchgar am ragor o wybodaeth am:
· y graddau y cafodd incwm ychwanegol a grëwyd gan Cadw yn y blynyddoedd blaenorol ei neilltuo ar gyfer ei ddefnyddio gan Cadw;
· dadansoddiad o sut y defnyddiwyd incwm a grëwyd gan Cadw ei hun yn y flwyddyn ariannol gyfredol; ac
· yr incwm targed ar gyfer 2017-18 yn ogystal â’r bwriad o ran sut y dylai’r incwm hwn gael ei ddefnyddio.
Cyngor Celfyddydau Cymru – Creu Incwm
Fel yn achos Cadw, nid yw’n gwbl glir beth fydd yr effaith ar Gyngor y Celfyddydau os bydd yn methu â chyrraedd ei darged ar gyfer creu incwm. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar i gael gwybod sut y bydd unrhyw ddiffyg yn cael ei dalu os na chyrhaeddir y targedau.
Roedd Aelodau’r Pwyllgor hefyd braidd yn amheus ynghylch a yw’r model ariannu ‘tri thraean’ (h.y. cael arian o gyllid cyhoeddus, cynhyrchu incwm a ffynonellau haelioni, fel traean o bob un) yn realistig yng nghyd-destun Cymru, oherwydd yn hanesyddol, bu’n fwy anodd denu cyllid haelioni i’r un graddau ag yw mewn rhannau mwy cyfoethog o’r DU. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar o glywed eich barn am hyn, a beth yw’r cynlluniau ar gyfer symud yn nes at fodel o’r fath.
Adolygiad Arbenigol o Amgueddfeydd
A fyddai modd i chi roi rhagor o fanylion am gynnydd tuag at strategaeth amgueddfeydd newydd, a’r graddau y gall dyraniadau cyllidebol yn y maes hwn newid yn dibynnu ar ffurf y strategaeth newydd hon yn.
Yn gywir
Bethan Jenkins AC
Cadeirydd